Skip navigation
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text
Jump to page
146
DECHREUAD A CHYNNYDD Y BEDYDDWYR YN SIR
BENFRO.
UAN  B.  REES,  YBW.,  Y.H.,  GJRANANT.
Ysgeif II.
6RIFFITH HOWELL oedd weinidog arall a daflwyd allan o'r Eglwys, yr
hwn oedd yn byw ar ei dir ei hun, jn Rushacre, ger Arberth, yn sir
Benfro. Efe oedd blaenffrwyth gweinidogaeth William JoneB wedi
iddo droi at y Bedyddwyr, a'r cyntaf a fedyddiwyd ganddo; a chan y
dywedir mai ei gyfeillion a'i gydnabod a fedyddiwyd gyntaf ganddo, rhaid
fod Griffith Howell yn mysg y dosbarth hwnw. Parhaodd i bregethu i'r bobl,
ond ni ddywedir iddo gael ei garcharu cyn cael ei fedyddio. Pregethai i'r
Saeson, a William Jones i'r Cymry. Yn y carchar yn Hwlffordd yr oedd
Griffith Howell pan fedyddiwyd Ann, ei wraig, a John, ei fab. Yr oedd yn
dda arno o ran da y byd hwn, yn barchus, ac haelionus. Cawsant y pryd
hwnw flinder i gael claddu eu meirw, a rhoddodd y dyn da háºn ddarn o dir o
dyddyn o'i eiddo, a elwid Trefangor, i fod yn ardd gladdu iddynt. Gwerth-
wyd y tir a'i cylchynai fwy nag unwaith, ac aeth un o'r perchenogion hyn yn
mhen tro i'w hawlio fel ei eiddo ef, a'r Bedyddwyr yn ei hawlio fel eu heiddo
hwythau. Torodd Mr. Rees, cj'freithiwr, o Hwlffordd, yr hwn oedd Fedydd-
iwr, i mewn i'r fynwent, er mwyn claddu y diweddar Griffiths, Accrington,
yno, a gwysiwyd ef i'r llys am hyny; ac am fod y Weithred a roddwyd gan
Griffith Howell wedi ei cholli, methwyd yno. Fodd bynag, yn mben amser,
yn ddamweiniol daeth y Weithred oedd ar goll i law yr hwu a ennillodd yn y
llys, a bu yn ddigon gonest i'w rhoddi i iawn berchenogion y fynwent, a darn
o dir i'w helaetbu, gyda lOp. at ei gau i mewn; ond bu traul y prawf yn y
llys yn agos i GOOp. Rhoddodd Griffith Howell hefyd 40p. yn ei ewyllys at
gynnal y weinidogaeth, y rhai a gollwyd cyn hyn. Bu farw tua'r flwyddyn
1695, a chladdwyd ef yn mynwent Trefangor; a dywedir fod ei fedd yn ad-
nabyddus yno, ond heb gareg arno.
Yn Moj'ddyn, yn mhlwyf Llanarth, yn sir Aberteifi, yr oedd Thomas David
Rees jrn byw. Y mae Llanarth tua deugain milltir o Rushacre, eto cyrchai
yno, am yr ewyllysiai gael ei fedyddio yn yr un dull a'i Flaenor. Bu gofal
eglwys Glandw'r, yn mhlwyf Llandyssul, aruo ef. Derbyniodd ei ran o flinder
y cyfnod mewn dirwyon a charchar.    Bu farw tua'r flwyddyn 1696.
Boneddwr da a chyfoethog hefyd oedd John Evans, o Llwyndw'r. Dygwyd
ef i fyny gan ei fam yn ddysgedig, gan ei gymhwyso i'r offeiriadaeth. Cyn
iddo fyned i Rhydychain, bu yn gwrando William Jones yn pregethu, a newid-
iodd yn ei farn am ordinhadau ac athrawiaethau crefydd, a phenderfynodd
fod yn Fedyddiwr. Annogai ei fam ef yn daer i fyned i Rhydychain, fel ag
i'w gymhwyso i fod yn offeiriad, gan ddangos iddo fanteision ac anrhydedd y
swydd; ond bu hyny yn aneffeithiol. Yna bygythiodd ei daflu dros y drw6,
os nad elai. Dywedodd yntau nad elai yn offeiriad, bydded y canlyniadau y
peth a fyddent. Cyn ei droi allan, clywodd ei fam wrth fyned heibio lais yn
ei ystafell, a gwrandawodd, a chlywodd ef yn gweddio drosto ei hun a thros
ei fam. Toddodd hyn ei chalon, ac o hyny allan efe oedd y mab goreu; ac
nid yn unig ni throwyd ef allan, ond rhoddodd iddo arian i brynu fferm iddo
ei hun.    Bedyddiwyd. ef yn y flwyddyn 1673, pan oedd ei gyfaill Griffith
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text
Jump to page

This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.